Y Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd (CTE) yw’r confensiwn rhyngwladol cyntaf i ganolbwyntio’n benodol ar dirwedd, ac sy’n gyfan gwbl wedi’i neilltuo i warchod, rheoli a chynllunio holl dirwedd Ewrop. Daeth y CTE i rym ar 1 Mawrth 2007. Mae’r confensiwn yn amlygu’r angen i gydnabod tirwedd mewn cyfraith, i ddatblygu polisïau tirwedd penodol i warchod, rheoli a chreu tirweddau, ac i sefydlu dulliau gweithredu ar gyfer y cyhoedd a rhan ddeiliaid eraill sydd am gymryd rhan mewn creu a gweithredu polisïau tirwedd. Mae hefyd yn annog integreiddio tirwedd ymhob adran berthnasol o bolisi, gan gynnwys polisïau diwylliannol, economaidd a chymdeithasol.
Mae’r CTE yn ymdrin ag ardaloedd naturiol, cefn gwlad, trefol a chyrion trefi. Mae’n cynnwys tir, dŵr mewndirol ac ardaloedd morol gan gynnwys tirweddau a ellid eu hystyried yn eithriadol ynghyd â rhai a ellid eu hystyried yn gyffredin neu’n ddiraddiol.
Mae’r CTE yn ystyried fod pob tirwedd yn ffurfio’r cefndir ar gyfer bywydau’r boblogaeth o dan sylw; mae ansawdd y dirwedd honno yn effeithio ar fywydau pawb. O ganlyniad, mae’r CTE yn ceisio gweithio mewn ffordd ddemocrataidd, gyda dinasyddion yn cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cilio oddi wrth y syniad mai maes arbennig sy’n cael ei feddiannu’n gyfan gwbl gan gyrff gwyddonol a thechnegol yw gwarchod neu reoli’r dirwedd.
Lawrlwythwch gopi o’r confensiwn cyfan a gyhoeddir gan y Landscape Character Network (PDF).
Mae’r CTE yn cynnwys nifer o ‘fesurau cyffredinol a phenodol’ yn ogystal â diffiniadau pwysig. Darllenwch hanes y Gwobrau i wybod pwy oedd yn fuddugol y tro diwethaf.