Mae manylion llawn am sut i ymgeisio i’w gweld yn Canllawiau i Ymgeiswyr (PDF). Mae hwn yn egluro meini prawf y beirniadu yn ogystal â’r wybodaeth y dylech ei ddarparu wrth ymgeisio. Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 27 Awst 2010.
Mae ymgeisio am Wobr Dirwedd y DU 2010 yn rhad ac am ddim.
Pan fyddwch yn cofrestru gofynnir i chi am fanylion sylfaenol a chrynodeb byr o’ch prosiect. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn derbyn rhif cyfeirnod.
Ar ôl i’ch cofrestru gael ei gymeradwyo, anfonir dolen atoch i fynd i’r ffurflen lawn a ddylid ei chwblhau cyn y dyddiad cau. Gallwch ddiweddaru eich cais ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau. Bydd pob ymgais yn cael ei nodi ar fap google o’r DU.
Gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall y telerau a’r amodau ar gyfer ymgeisio, y rhai a welir ar dudalen 7 o’r Canllawiau, cyn i chi gyflwyno eich cais terfynol.