
Parc de al Deûle, enillydd 2009
Mabwysiadwyd y Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd gan Gyngor y Gweinidogion yn 1999 ac fe’i agorwyd ar gyfer llofnodi gan aelod-wladwriaethau yn 2000. Erbyn 2004 cafwyd y nifer gofynnol o lofnodion oedd yn angenrheidiol i ddod â’r confensiwn i rym. Erbyn hyn mae 30 o 47 aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop wedi arwyddo’r confensiwn. Arwyddodd y DU yn 2006 a daeth y confensiwn i rym yn y DU yn 2007. Fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd yn gytundeb rhyngwladol sy’n creu rhwymedigaethau clir ar lywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig, llywodraeth ranbarthol a lleol a phob adran ac asiantaeth yn y llywodraethau hyn.
Y confensiwn fu’n gyfrifol am greu Gwobr Dirwedd Cyngor Ewrop, ond ni ddaeth i fodolaeth mewn gwirionedd am nifer o flynyddoedd. Cytunodd yr aelod-wladwriaethau ar reolau’r Gwobrau ym mis Chwefror 2008 ac yna agorwyd rowndiau cyntaf y gwobrau.
Mae Gwobrau Tirwedd Ewropeaidd yn dilyn yr un drefn â Chystadleuaeth Cân Eurovision – mae pob gwlad sydd am gystadlu yn cynnal ei chystadleuaeth genedlaethol ei hun, gyda’r enillydd cenedlaethol yn mynd ymlaen i rownd feirniadu Ewrop eang.
Unwaith y penderfynwyd ar reolau’r Gwobrau yn gynnar yn 2008, cynhaliodd y gwledydd oedd am gymryd rhan eu trefn ddethol. Ym mis Medi 2009, cyflwynodd y grŵp cyntaf o aelod-wladwriaethau eu cynigion ar gyfer Gwobr Dirwedd Cyngor Ewrop. Am fod y Gwobrau yn newydd ac nad oedd fawr o amser paratoi, wyth gwlad yn unig gymrodd ran – Y Weriniaeth Tsiec, Y Ffindir, Ffrainc, Hwngari, Yr Eidal, Slofenia, Sbaen a Thwrci. Nid oedd y DU yn rhan o’r rownd yma. Wedi cwblhau eu dethol cenedlaethol yn 2008, cyflwynodd yr wyth gwlad oed yn cystadlu eu henillwyr i Gyngor Ewrop i’w beirniadu yn 2009.
Gellir gweld cynigion a chanlyniadau 2009 ar wefan Cyngor Ewrop.
Ffrainc oedd yn fuddugol, am y Parc de al Deûle, gydag ymgais Sbaen, Parque de Christina Enea, yn derbyn clod arbennig.