GWOBR DIRWEDD Y DU 2010

Ynglŷn â Gwobr Dirwedd y DU

Arddangos prosiectau gorau’r DU

Mae tirwedd dda, ym mhle bynnag y bo, yn gymorth i greu cymunedau gwych. Sgwâr newydd mewn tref, llwybr arfordir wedi’i adfer, cynllun adnewyddu gyda gofod i’r cyhoedd yn ganolog iddo, maen nhw i gyd y cyfrannu at ba mor llwyddiannus yw’r gymuned. Rydym yn chwilio am y tirweddau gorau yn y DU. Rydym yn awyddus i ddangos gymaint o rym sydd gan dirwedd i fod o fudd i’r gymuned y mae’n rhan ohoni.

Tirwedd ar gyfer Ewrop

Crëwyd Gwobr Dirwedd y DU gan Y Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd sydd yn cynorthwyo i’w gweithredu yn y DU. Yr enillydd fydd yn cynrychioli’r DU yng Ngwobr Tirwedd Cyngor Ewrop (CE) a ddyfernir gan CE ym mis Mawrth 2011. Unwaith yn unig y cynhaliwyd y Wobr yn y gorffennol; dyma’r tro cyntaf iddi ddigwydd yn y DU.

Mae pob math o dirwedd yn gymwys i ymgeisio

Gall y dirwedd fod yn un sydd newydd ei chreu, gall fod yn welliant neu’n adnewyddiad o dirwedd sydd eisoes yn bodoli, neu sydd o bosib wedi dod â bywyd newydd neu ymwneud cymunedol i le sy’n bodoli eisoes. Gall pob math o dirwedd – trefol, gwledig, ar gyrion trefi, maestrefol, arfordirol, amaethyddol, diwydiannol, wedi’i gynllunio, naturiol, diwylliannol, yn apelio at neu wedi’i gynllunio ar gyfer plant – fod yn gymwys i ymgeisio.

Cyfyngiad ar y math o sefydliad all ymgeisio

Mae cyfyngiadau ar bwy all ymgeisio. Rhaid i chi fod:
- yn awdurdod lleol neu ranbarthol; neu
- yn grŵp o awdurdodau lleol neu ranbarthol; neu
- yn gorff anllywodraethol (NGO) megis elusen gofrestredig neu gymdeithas dai.
Os nad ydych yn disgyn i un o’r categorïau yma, does dim yn eich rhwystro i awgrymu y dylai’r awdurdod priodol ymgeisio.

Cyfle gwych

Mae’r Wobr yn gyfle gwych i sefydliadau arddangos eu prosiectau tirwedd gorau, gan amlygu eu cyfraniad tuag at wella llecynnau a sefydlu gweithgaredd cymunedol yn y broses.

Dyddiadau pwysig

Y dyddiad cau yw 27 Awst 2010. Cyhoeddir enw’r enillydd ar 8 Tachwedd 2010 yng Nghynhadledd Y Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd yn Lerpwl. Bydd enillydd y DU yn cystadlu am Wobr Dirwedd Ewropeaidd Cyngor Ewrop a gyhoeddir ym mis Mawrth 2011.