GWOBR DIRWEDD Y DU 2010

Gwobr Dirwedd Cyngor Ewrop

Mae creu gwobr wedi’i gynnwys yn Erthygl 11 o’r Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd.

  1. Mae Gwobr Dirwedd Cyngor Ewrop yn rhagoriaeth a gaiff ei gyflwyno i awdurdodau lleol a rhanbarthol, a grwpiau ohonynt, sydd wedi sefydlu, fel rhan o bolisi tirwedd Parti i’r Confensiwn hwn, bolisi neu fesurau i warchod, rheoli a/neu gynllunio eu tirwedd, sydd wedi profi’n barhaol effeithlon ac felly yn gallu bod yn esiampl i awdurdodau tiriogaethol eraill yn Ewrop. Gall y rhagoriaeth hefyd gael ei gyflwyno i gyrff anllywodraethol a wnaeth gyfraniad hynod neilltuol tuag at warchod, rheoli neu gynllunio tirwedd.
  2. Cynigir ceisiadau am Wobr Dirwedd Cyngor Ewrop gan y Partïon i Bwyllgorau yr Arbenigwyr a nodir yn Erthygl 10. Gall awdurdodau lleol a rhanbarthol a grwpiau o awdurdodau lleol a rhanbarthol trawsffiniol ymgeisio, os ydynt yn rheoli’r dirwedd dan sylw ar y cyd.
  3. Yn sgil cynigion gan Bwyllgorau yr Arbenigwyr a nodir yn Erthygl 10 bydd Pwyllgor y Gweinidogion yn diffinio a chyhoeddi’r meini prawf perthnasol i Wobr Dirwedd Cyngor Ewrop, i fabwysiadu’r rheolau perthnasol ac i gyflwyno’r Wobr.
  4. Bwriad dyfarnu Gwobr Dirwedd Cyngor Ewrop yw i annog y rhai fydd yn derbyn y wobr i sicrhau gwarchod cynaliadwy, rheolaeth a/neu gynllunio ardal y dirwedd o dan sylw.

Lawrlwythwch gopi o’r confensiwn cyfan.