GWOBR DIRWEDD Y DU 2010

Dysgu yn dilyn y rownd gyntaf

Yn naturiol nid ydym yn gwybod beth oedd barn y beirniaid am bob ymgais; nac ychwaith a fydd y beirniaid o’r un farn yn 2011 ag oedden nhw yn 2009. Er hynny gallai’r sylwadau canlynol fod o fudd i ymgeiswyr o’r DU:

Yn 2009 roedd y cais buddugol (Ffrainc) a’r un dderbyniodd glod arbennig (Sbaen):

  • yn gyflwyniadau o safon uchel iawn;
  • yn brosiectau tymor hir a fu’n ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, esthetig a bioamrywiol i’w hardaloedd yn gyson dros nifer o flynyddoedd; a hefyd
  • yn dangos lefel uchel o ymrwymiad cyhoeddus a budd arwyddocaol i’r cyhoedd yn deillio ohonynt.

Roedd ymgais Twrci yn bennaf ynghylch bioamrywiaeth, a heb efallai bwysleisio digon ar ddatblygu cymdeithasol neu economaidd, neu’r dirwedd fel caffaeliad diwylliannol.

Ymddengys fod ymgais Slofenia yn hynod academaidd, gydag ychydig iawn o ymrwymiad cyhoeddus.

Yn ôl pob tebyg sgoriodd ymgais y Weriniaeth Tsiec yn uchel am ymrwymiad cyhoeddus a budd cyhoeddus, ond o bosib wedi sgorio’n is am gynaliadwyaeth, bioamrywiaeth a meysydd eraill.